
MORDEITHIO
Eisiau gweld yr Ynys mewn goleuni gwahanol? Neidiwch ar gwch ac archwilio’r arfordir. Mae nifer o gychod siartr yn cynnig teithiau pleser yn rhedeg o nifer o fannau o gwmpas yr Ynys gan gynnwys Amlwch, Bae Cemaes, Beaumaris a Phorthaethwy. Ewch i weld Goleudy Ynysoedd y Moelrhoniaid neu ar daith i Ynys Seiriol i weld aderyn y pâl (Ebrill i ddiwedd Gorffennaf) a’r morloi, neu fwynhau taith gyffrous ar Afon Menai a chael blas o’r trobyllau a’r dyfroedd llanwol. Mae’n bosibl llogi rhai o’r cychod i chi’ch hunain yn unig ac am ddiwrnod cyfan, sy’n ddelfrydol os oes criw ohonoch sydd eisiau treulio ychydig o amser yn teithio o gwmpas yr Ynys.
- Cerismar Two yn gadael Beaumaris, 01248 810746
- Starida Sea Services, yn gadael Beaumaris, 01248 810251
- Lander Charter, yn gadael amryw o leoliadau ar hyd Afon Menai, 01407 840107
- Morio Môn, yn gadael Porthladd Amlwch 01407 830485
- Seekat C, yn gadael Porthladd Amlwch, 01407 830040
- Terminator, yn gadael Malltraeth, 01407 840107
- SBS RIB Charter, yn gadael Bae Trearddur, 01407 740083
- Rib Ride, yn gadael Beaumaris a Moel y Don, 0333 1234 303