Syrffio

SYRFFIO Mae Ynys Môn yn lle enwog am syrffio, hwylfyrddio a barcutfyrddio gyda Rhosneigr yn hawlio teitl prif ddinas adrenalin yr Ynys! Mae Rhosneigr yn falch o’i ddau draeth.  Mae Traeth y Dref, hir a llydan, yn ddelfrydol ar gyfer hwylfyrddio ac mae’n addas at bob lefel o allu ym mhob tywydd, tra bo amodau gwych Traeth Llydan yn cynnig eu hun ar gyfer syrffio a corff-fyrddio. Os hoffech roi tro ar un o’r chwaraeon hyn, mae Funsport yn Rhosneigr yn cynnig sesiynau blasu i chi gael yr wybodaeth a’r sgiliau sylfaenol.  Mae’n bosibl llogi’r offer angenrheidiol gan gynnwys siwtiau gwlyb, dyma’r cyfle i chi archebu lle mewn grŵp neu sesiwn un i un i ddysgu sut i syrffio, hwylfyrddio neu farcudfyrddio.  Gallwch gysylltu â Funsport ar 01407 810899 neu mae FKS Kite Surfing School ar 01407 810598 yn cynnig gwersi syrffio yn ogystal â X-sail neu fini ȋot tir, sef y cyffro diweddaraf ym myd chwaraeon y gwynt.